Thursday 8 August 2013

Dechrau blogio

Dydd Iau, Awst 8

Shw' mae? Dwi'n byw mewn pentref bychan yng Ngorllewin Cymru, wedi ymddeol, ac yn treulio'r dyddiadau yn "bwdlan" ybyti, self gwneud fawr o ddim. Dyma rhai o'r pethau dwi'n eu hoffi - darllen gwenu'n, coginio, cerddoriaeth, byd natur, tynnu lluniau ac anfon a derbyn cardiau post trwy Postcrossing.
Pam 'sgrifennu blog? Yn bennaf efallai, er mwyn ymarfer ysgrifennu ychydig bob dydd - nid fod gennyf rhywbeth i'w ddweud sy'n chwildroadol. Cipolwg o fywyd ar ôl ymddeol efallai.
Heddiw, mae'r Eisteddfod Genedlaethol ar y teledu, ond mae rhywfaint o haul, felly mae'r ardd yn galw. Popeth yn dod yn barod gyda'i gilydd, a dim ond dau ar gael i fwyta'r cynhaeaf. Diolch byth am ffrindiau a chymdogion.
Ar hyn o byd, mae gennym: calabrese, courgettes, bresych, moron, pys, ffa, betys, ciwcymber, winwns, garlleg a sialots yn barod, a ffa ffrengig, corn melys a ffa dringo bron yn barod. Mae rhai pethau yn cadw wrth gwrs, ac eraill yn gor-dyfu'n  gyflym, felly raid bwrw ati i'w bwyta. Felly, dwi'n treulio tipyn o amser yn chwilio am ryseitiau, yn enwedig ar gyfer y courgettes.